Dydd Gwener, Mai 15 gan Fiona Gale Argraffu Ebost

10am: Aros ar Fwlch pen Barras, Moel Famau i’r llwyth cyntaf o bobl ifainc gyrraedd. Ysgol Bodnant, Prestatyn, oedd y rhai cyntaf ac roedd yna 50 o blant yn llawn cyffro. Arweinwyr y grŵp hwn oedd Nick a Sharon, ac ar ôl esboniad byr a sgwrs am iechyd a diogelwch, i ffwrdd â nhw.

Yn fuan wedyn, fe gyrhaeddodd yr ail fws a mwy o blant bywiog; o Ysgol y Llys Prestatyn y tro yma, Rhun Erin a finnau oedd yn arwain y rhain. Roedd hi’n dipyn o ddring i ben y bryn, ac ychydig iawn o blant oedd wedi bod yma o’r blaen. Gydag ychydig o berswâd, cyrhaeddodd pawb y top. Cafodd pawb eu cinio yn eistedd o gwmpas y twr, a bu rhai’n bwydo petrisen goes goch ddof iawn (a enwodd Rhun yn ‘Alan’). O leiaf heddiw, gallwch weld y twr wrth inni agosáu ato, roedd y diwrnod cynt wedi bod mor niwlog doedden ni ddim yn gallu gweld y twr nes roeddem ar ei ben.

Roedd y daith i lawr yn mynd drwy’r goedwig, oedd yn wahanol iawn i’r rhostir ar y ffordd i fyny. Aethon ni heibio ardal ‘Cartref y grugieir’ oedd o ddiddordeb mawr i’r plant. Dyma’r rhan o’r goedwig a gafodd ei thorri ychydig o flynyddoedd yn ôl, ac sydd erbyn hyn yn llawn o blanhigion grug iach ac ambell i goeden wedi’i phlannu ynddyn nhw, - cynefin delfrydol i’r rugiar ddu.

Ar ôl chwilota ar Foel Famau am dair awr, roedd y plant yn ôl yn y bws. Bu’n ddiwrnod difyr iawn ac roedd hi’n wych gweld y plant ysgol yn archwilio’r cynefin mor eiddgar. Na! welsom ni ddim grugieir duon, efallai ein bod ychydig yn rhy swnllyd ond fe welodd ac fe glywodd y plant yr adar clegar y cerrig, ac erbyn hyn dw i’n sicr yn deall pan maen nhw’n cael eu galw’n clegar y cerrig … mae’n swnio’n union fel dwy garreg yn cael eu taro yn erbyn ei gilydd!