| Dydd Sadwrn Mai 16 gan Fiona Gale |
|
|
|
9.30am: Neuadd Prestatyn, yn barod i gyfarfod â’r cerddwyr a ymaelododd ar y daith gerdded i Garnedd Gop a bryngaer Moel Hiraddug. Dwi’n arwain y daith hon gyda Garry Davies, Warden gogledd Sir Ddinbych. Nid yw’r fryngaer hon yn rhan o’r project y Grug a’r Ceyrydd ac mae’n gaer wahanol iawn i’r rhai sydd yn ardal y project. I ddechrau, mae’r ddaeareg yn wahanol - carreg galch sydd yma ac mae’r rhan fwyaf o’r rhagfuriau wedi’u gwneud o feini calchfaen. Mae’n wahanol hefyd am fod yma lawer o gloddio wedi digwydd yma dros y blynyddoedd - y prif reswm am hyn yw bod y chwarel wedi bod yn cnoi’r gaer yn raddol ac erbyn hyn mae tua’r drydedd ran ohoni wedi diflannu , ond nid yw’r chwarel yn tynnu’r cerrig erbyn hyn. Roedd dros 20 o bobl yn cerdded a rhagolygon y tywydd yn argoeli taith bleserus. Rydym wedi cyrraedd Carnedd Gop erbyn amser cinio. Dyma le diddorol eithriadol, yn boncyn anferth sy’n edrych yn ddibwrpas. Bu cloddio archeolegol yma hefyd, y tro hwn yn y 19 ganrif gan yr Athro Boyd Dawkins o Fanceinion. Erbyn hyn, mae’r archeolegwyr yn tybio fod y garnedd hon o’r cyfnod Neolithig tua- 5500 o flynyddoedd yn ôl pan ddechreuodd pobl ffermio ac ymgartrefu. Doedd dim byd allai roi dyddiad ar y poncyn ei hunan, er bod Boyd Dawkins wedi darganfod gweddillion pobl Neolithig yn yr ogofeydd sydd yn is i lawr. Trodd y tywydd ychydig yn wyllt a gwlyb amser cinio, ac roedd pawb yn falch o gyrraedd y ffordd ac allan o’r gwynt. Erbyn inni gyrraedd Moel Hiraddug roedd y gwynt yn uwch fyth ac yn hwyl fawr - a chymryd eich bod yn gallu dal i sefyll ar eich traed. Mae’r golygfeydd o’r copa yn wych, ac roeddem yn lwcus dros ben i gael tywydd clir. Roedd pobl Oes yr Haearn tua 2500 o flynyddoedd yn ol, yn gwybod yn iawn sut i ddewis lle da! Mae rhan olaf y daith ar dir gwastad, ar hyd hen reilffordd Prestatyn – Diserth, a dyna’n union oedd ei angen ar ddiwedd diwrnod hir. Roedd pawb yn y grŵp wedi mwynau eu hunain ac ar ôl 10 milltir o gerdded roeddem yn haeddu’r sgons a’r hufen a’r mefus ffres! |



Orielau 






