| Dydd Iau 14 Mai gan Erin |
|
|
|
Am ddiwrnod gwael! Cawsom ddiwrnod o niwl trwchus oer! Heddiw, aeth Ffiona, Archeolegydd y sir, Sharon warden partneriaeth coedwigoedd a minnau a 45 o ddisgyblion o Ysgol Melyd i ben Moel Famau. Yn anffodus oherwydd y tywydd ni welwyd y golygfeydd gwych o’r copa! Fodd bynnag cawsom amser da yn cerdded o Fwlch Pen Barras hyd dwr y Jiwbilî a gwelsom y grug, y ffriddoedd a buom yn defnyddio ein dychymyg i feddwl sut le oedd y bryngaerau a Dyffryn Clwyd yn yr hen ddyddiau. Wrth gyrraedd copa Moel Famau gwelsom ymwelydd annisgwyl ar ffurf petrisen goesgoch! Roedd yn gyfeillgar dros ben ac yn fwy na hapus i ymuno a ni am ginio cyn gadael i ddilyn llwybr i lawr trwy Goed Moel Famau. |



Orielau 






