Dydd Gwener 15 Mai gan Erin Argraffu Ebost

Heddiw aeth Rhun Jones, Uwch Warden de Sir Ddinbych, Ffiona a minnau i gyfarfod 57 o ddisgyblion Ysgol Y Llys i gerdded yr un daith. Roedd hi’n niwlog ond gall weld Dyffryn Clwyd trwy'r cymylau wrth gerdded Llwybr Clawdd Offa hyd at y Twr. Cawsom olygfa wych o Foel y Gaer, Llanbedr a soniodd yr Ysgol am oes yr haearn a chyfnod y Celtiaid. Arhosom i edrych ar y grug a sgwrsio am y rugiar ddu a’r rheswm am reoli’r ffriddoedd.

Amser cinio daeth y betrisen atom eto ac fe’i galwyd yn ‘Alan’.

Cerddom yn ôl at y bws trwy Goed Moel Famau a chawsom orffwys i siarad am yr ehedydd. Tynnwyd llun o’r Ysgol i lawr y llwybr pan gyrhaeddom Rugiar Ddu fawr o bren cyn mynd i’r maes parcio at y bws i fynd yn ôl i Brestatyn.