|
Dydd Sul, 17 Mai gan David |
|
|
O Brestatyn i’r Grug a’r Bryngaerau - Penycloddiau a Moel Arthur
Daeth y bws mini i’n cyfarfod ym Mhrestatyn a mynd â ni i galon Bryniau Clwyd i gychwyn ein taith gerdded - 7 milltir ar draws Bryngaerau Penycloddiau a Moel Arthur. Fiona Gale a finnau oedd yn arwain.
Wrth inni adael y dref roedd yr haul yn gwneud ei orau glas i’n cyrraedd drwy’r cymylau, ond erbyn cyrraedd y moelydd uwchben Llandyrnog fe ddechreuodd y glaw y tu ôl i chwa o wynt rhynllyd. Ym maes parcio Llangwyfan, ar y llwybr i fyny i’r fryngaer, daeth Sam Williams (Swyddog Cadwraeth y Bryngeyrydd gyda’r project y Grug a’r Caerau), i’n cyfarfod. Sam drefnodd y cloddio archeolegol ar y safle a oedd yn domen gladdu Oes yr Efydd dros 4000 o flynyddoedd yn ôl. Aeth hi â ni i ben y bryn ble roeddem yn gallu cael sgwrs â’r archeolegwyr oedd yn cloddio’r safle. Erbyn inni gyrraedd, roedden ni’n wlyb at y croen, ond roedd Ian Grant, yr Archeolegydd oedd yn goruchwylio’r safle, yn gallu tynnu’n sylw o’r tywydd dychrynllyd drwy adrodd hanes y garnedd gladdu – neu o leiaf hynny o hanes roedd o wedi gallu’i gasglu hyd yn hyn.
Ymhellach draw - gan geisio cysgodi yn rhagfuriau serth y gaer - roedd Fiona’n gallu rhoi syniad inni am sut fyddai’r fryngaer yn edrych tua 2500 o flynyddoedd yn ôl pan roedd yma bobl yn byw ynddi mewn dros 40 o dai crynion efallai. Hon oedd y gaer fwyaf ym Mryniau Clwyd ac mae’n rhaid ei bod yn ferw o weithgaredd yn ystod Oes yr Haearn. Esboniodd Fiona sut roedd y project yn raddol dynnu llun o’r hyn a allai fod yn digwydd yma'r holl ganrifoedd hynny yn ôl.
Erbyn inni gyrraedd i lawr i’r llethrau isel i chwilio am gysgod i gael cinio, dyma’r haul yn dod allan o’r cwmwl fel petai rywun wedi’i archebu; trodd yr awyr yn las a chawsom olygfeydd gwych i Eryri a’r môr. Moel Arthur oedd ein hail fryngaer y diwrnod hwnnw - caer lai o lawer ond un drawiadol iawn. Wrth inni agosáu drwy’r brif fynedfa cawsom syniad o sut fyddai dod i mewn i’r gaer hon tua 2500 o flynyddoedd yn ôl yn teimlo. Ac roedd disgrifiad a dehongliad Fiona o’r ffosydd a’r cloddiau oedd yn dal yma yn wych.
Erbyn inni ddechrau ar i lawr o Foel Arthur am y bws roedd y gaeaf yn ôl - digon i ofalu bod pawb yn wlyb domen eto i deithio adref. Dw i’n meddwl fod pawb wedi mwynhau, ac wedi’u hargyhoeddi fod pobl Oes yr Haearn ers talwm yn bobl reit galed!
|