| 11 Awst 2009 gan David |
|
|
|
Mae tîm Y Grug a'r Caerau wedi ymuno hefo Gwasanaethau Ieuenctid Sir Ddinbych i ddod a grwpiau o bobl allan i Fryniau Clwyd o’r Rhyl a Dyserth.
Roedden nhw’n fawr a thrwm ond yn waith ysgafn i’r bechgyn oedd yn eu rholio tua'r copa !! Ar y copa buont yn glanhau graffiti oddi ar Tŵr y Jiwbilî yna i lawr i’r fforest i glirio’r coed ifanc - sydd nawr yn ffriddoedd. Mae hwn yn lle da i’r rugiar ddu a bydd y gwaith a wnaethom yma yn ei gadw fel hyn. Diolch yn fawr i wasanaethau Ieuenctid Sir Ddinbych a’r rhai a ddaeth o Ddyserth ddydd Llun ac o’r Rhyl ddydd Mawrth. Gwnaeth y grŵp o’r Rhyl fodelau diddorol o Dŵr y Jiwbili tra’n cael eu cinio ar y top!!
|



Orielau 

Bu Erin a minnau’n cyfarfod Jay McGuiness, a ddaeth i faes parcio Moel Famau hefo grŵp o 8 bachgen o’r Rhyl, ac aethom ar hyd Llwybr Clawdd Offa hyd gopa Moel Famau. Ar y ffordd ddaru ni gyfarfod hefo Sharon Woods, Warden Moel Famau oedd yn gweithio hefo gwirfoddolwyr yn atgyweirio erydiad ar y rhan boblogaidd yma o’r llwybr. Roedd hi angen cymorth i symud dau lwyth o rug i fyny tua’r copa - gan ddefnyddio’r grug i atgyweirio erydiad ar y llwybr.





