Archeoleg o'r Awyr gan Sam Argraffu Ebost

Dydd Llun 12 o Hydref cefais alwad ffôn gan Toby Driver, archeolegydd awyrol gyda y Comisiwn Brenhinol, a leolwyd yn Aberystwyth, i ofyn os hoffwn fynd gydag ef mewn awyren ysgafn i weld y bryngaerau ac ardal y prosiect o’r awyr. Cymerodd ddeg eiliad i mi ddweud ie. Felly trefnais yr amser yn sydyn i gyfarfod ym Maes Awyr y Trallwng y diwrnod canlynol cyn iddo newid ei feddwl.

Bore dydd Mawrth mi ddeffroes yn gyffro i gyd gan y byddwn yn hedfan i fyny fry yn yr awyr yn y prynhawn, edrychais i fyny fel roeddwn i yn tynnu y llenni. ‘Roedd hi am fod yn ddiwrnod clir ac byddai’r golygfeydd yn wych. Aeth y bore yn sydyn iawn ac fel yr oeddwn yn gadel i fynd am y maes awyr gofynnodd fy nghydweithwyr os oeddwn i angen bag i fod yn sâl – ie dydi eich ffrindiau yn grêt!!!!!

Yn y maes awyr cefais fy nghyflwyno i beilot y dydd, Bob, a ddwedodd wrtha i, gan dynnu coes - gobeithio, mai hon fyddai ei ail daith yn yr awyr.

Am tua 2 y prynhawn dyma ni’n dechrau ac roeddwn yn rhyfeddu yn syth gyda’r olygfa gan ein bod yn hedfan heibio Gastell Powys. Ar ein taith i’r gogledd ar ein ffordd i ardal y prosiect aethom heibio Bryngaer Hen Groesoswallt a safle treftadaeth byd eang Pont Ddŵr Pontcysyllte. Yna dros Gastell Dinas Bran, sydd yn eistedd o fewn bryngaer gan yna hedfan dros Fynyddoedd Llantysilio. Mae’n anhygoel beth welwch o’r awyr. Mae llefydd de’ch chi’n meddwl eich bod yn adnabod yn dda yn taflu i fyny pethau newydd annisgwyl. Mae mynyddoedd Llantysilio yn llawn hen ffiniau caeau, a roddwyd o bosib i weithwyr o’r chwareli niferus sydd yn frith dros y mynydd.

llantysilio_mountainsdinas_bran

Yna aethom yn ein Blaenau dros Fryniau Clwyd.

Nid yn unig fod hi’n ddiwrnod da o ran y tywydd, roedd hi hefyd yn ddiwrnod da i weld aelodau eraill o’r Gwasanaeth Cefn Gwlad wrth eu gwaith yn llosgi y grug oddi mewn bryngaer Moel Fenlli. A dyna i chi olygfa o’r awyr. Gallwn weld yr ardaloedd a losgwyd dros y blynyddoedd diwethaf, yn ogystal a’r rhai a wnaed yn gynharach yn ystod y dydd. Gallwn weld pawb wrthi yn ddyfal, gan gynnwys myfyrwyr o Goleg Llysfasi a oedd yn rhoi help llaw.

fenlli

Aethom ymlaen tua’r gogledd gan hedfan dros Moel y Gaer Llanbedr, Moel Famau a Moel Arthur, cyn cyrraedd Penycloddiau. Dyma derfyn penigamp i’r daith. Rwyf wedi cerdded drwyddi, wedi gweld lluniau o’r awyr ohoni, nid oedd wedi fy mharatoi ar gyfer gweld ei maint. Yn 21 hectar, dyma un o fryngaerau mwyaf Cymru, ond nid ydych yn medru amgyffred ei maint nes yr ydych yn yr awyr. Yr oedd yn wefreiddiol.

Felly beth a ddysgais ar fy niwrnod allan?? Wel, o’r awyr rydech yn cael golygfa anhygoel gan weld nodweddion nad ydych yn gallu eu gweld bod tro o’r ddaear. O ac hefyd fod gen i stumog ‘cast iron’ – fel ddywedodd Toby.

 

sam_13th_oct_20092_