| Diwrnod Gweundir Dosbarth Chwech Ysgol Howell gan Erin |
|
|
|
Ar ôl y diwrnod Y Grug a'r Caerau a gynhaliwyd ym mis Ionawr cysylltodd Donna MacLennan o Ysgol Howell Dinbych hefo ni. Mae rhai o’r chweched dosbarth yn astudio bywyd y ffriddoedd eleni ac roedd yn awyddus iddynt ymweld â’u ffriddoedd lleol Ar ôl cyfarfod y dosbarth ym Mharc Gwledig Loggerheads aethom i gyfarfod Nick, ein swyddog ffriddoedd i gael cyflwyniad ar y ffriddoedd. Ar ôl cinio aethom am dro o fewn Parc Gwledig Moel Famau. Da oedd dysgu am amrywiaeth y ffriddoedd, siarad am fioamrywiaeth, hanes a choedwigo yn ogystal â chadwraeth, amaeth a materion erydu.
Mae mwy o goed yn cael eu torri ar hyn o bryd i wneud mangre fel hyn. Er bod gennym lawer o dir ffriddoedd yn Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd ac ar fynyddoedd Llantysilio mae yn beth prin iawn. Lleolir hanner ffriddoedd grug y byd ym Mhrydain ac mae tua 60% o hyn wedi’i golli ers yr ail ryfel byd. Ar ôl y rhyfel bu galw mawr am dir pori a hefyd am goed felly crëwyd llawer o blanhigfeydd conifferaidd. Mae’r Comisiwn Coedwigaeth yn torri rhai coed ar ymyl Coed Moel Famau i greu ymyl mwy meddal i’r goedwig. Golyga hyn y bydd ymyl y coed yn raddol newid i fod yn dirwedd o goed yn gymysg a ffriddoedd ac yna yn ffriddoedd llawn. Ar ôl aros wrth y ‘rugiar ddu” yn y goedwig roeddem ger maes parcio Coed Moel Famau a thrafodwyd y dydd a’n canfyddiadau ar ein taith ar lwybr tawel yn ôl i Fwlch Pen Barras. Diolch yn fawr i’r merched am ddiwrnod gwych!
|



Orielau 

Gwelwyd y grug mewn “bales” a ddefnyddir i adfer peth o’r grug sydd wedi erydu. Cesglir y byrnau ac mae miloedd lawer o hadau grug ynddyn nhw. Fe roddir nhw i orwedd, a gobeithio bydd yr hadau’n hadu i adfywio’r planhigyn. Fel arfer rhoddir coed ar ei dop i'w warchod rhag y gwynt a rhag traed pobl!
Roedd y golygfeydd yn rhyfeddol er ei bod braidd yn wyntog ar y bryniau. Gwelsom y defaid yn pori ar y darn a losgwyd. Eglurodd Nick eu bod yn hoffi pori’r egin newydd o rug a llus. Mae defaid hefyd yn bwyta llwyni a choed a all dagu’r grug felly maent yn dda am reoli tyfiant y ffriddoedd!
Cyn cyrraedd copa Llwybr Clawdd Offa aethom i gyfeiriad Coed Moel Famau, i ardal y grugieir. Crëwyd y llecyn hwn, lle mae’r ffriddoedd yn gymysg a choed, fel mangre berffaith i’r rugiar ddu.





