Ffilmio o'r Awyr gan Erin Argraffu Ebost

Roeddwn wedi bod yn aros am ddiwrnod clir pan fo’r grug yn llawn blodau ar gyfer gwneud prosiect DVD. Rydym wedi gohirio’r ffilmio nifer o weithiau oherwydd tywydd gwael felly roedd awyr las yn ateb i weddi yn y bore!

Es i faes awyr Penarlâg i gyfarfod ein criw a’r ffotograffydd arbenigol David Bailey (na, wir!) ac i ffwrdd a ni i hedfan - dros Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd gan ddechrau hefo’r arfordir ac yna anelu am y de.
 
penycloddiauAr ôl hedfan o amgylch Moel y Parc, treulio beth amser uwch ben bryngaer Penycloddiau. Roedd gweld y ffosydd enfawr o’r awyr yn rhyfeddol. Er fy mod yn aml yn dweud mai Penycloddiau yw bryngaer hynaf Cymru, o’i weld o’r awyr, fe welwch tasg mor enfawr fu ei godi, yn arbennig hefo cyrn carw ac esgyrn ysgwydd anifeiliaid yr unig offer i wneud hynny!

moel_arthur

moel_famau_cutsAethom o amgylch bryngaer Moel Arthur cyn anelu tua Moel y Gaer Llanbedr a Moel Famau, heibio nifer o fannau losgi a thorri yn y grug. Mae hyn yn dangos i mi fudd torri a llosgi’r ffriddoedd nid yn unig i bwrpas bioamrywiaeth ond amaeth hefyd gan fod defaid yn pori ar y stripiau.


 

moel_y_gaer_llanbedr2

jubilee_towerRoedd Twr y Jiwbili yn rhyfeddol o’r awyr ac ar ôl i ni godi llaw ar rai cerddwyr, hedfan dros Goed Moel Famau (wow- mae’n enfawr!), Parc Gwledig Loggerheads, Bryn Alun ac ymlaen tua bryngaer Moel Fenlli.

fenlli

Gwelsom y llwybrau a’r erydiad / gwaith cadwraeth a wneir ar Foel Fenlli ac yna ar ôl stopio i sychu’r lens yn ôl a ni i’r maes awyr i ail lenwi hefo tanwydd at y darn nesaf o’r daith.

eglwysegBuom yn hedfan heibio Eglwyseg ger Llangollen ac yna Castell Dinas Bran - icon ynddo’i hun, ond wyddech chi y bu’n fryngaer hefyd yn wreiddiol?

dinas_bran

moel_y_gaer_llantysilioRoedd y grug yn wych wrth hedfan heibio mynyddoedd Llantysilio ond roedd hi’n ddolur calon gweld faint o ddifrod a achoswyd oherwydd cerbydau yn rhedeg ar hyd top y bryniau.

moel_y_gaer_allntysilio2Roedd Moel y Gaer, er mai bychan ydi o, yn edrych yn wych o’r awyr. Mae’r fryngaer wedi bod yma tua 2500 o flynyddoedd ond mae’n cael ei ddifrodi'n gyflym ar hyn o bryd oherwydd bod cymaint o bobl yn gyrru moduron drosto’n anghyfreithlon.

Wedyn aethom tua’r Gorllewin tuag at Gorwen a Chaer Drewyn. Rwyf wedi ymweld â’r fangre sawl tro ond o’i weld o’r awyr roeddwn yn sylweddoli mor fawr yw ein bryngaerau a’n bod yn falch iawn o’u cael ar ein trothwy. Yn aml dwi'n meddwl pa mor lwcus ydi o gael swydd mor wych yn edrych ar ôl hynafiaethau mewn tirlun mor anhygoel roedd heddiw yn werth yr aros i i'w gweld o’r awyr!

 

caer_drewyn