Cloddiad Penycloddiau- Blog gan Sam

Penycloddiau ar Fryniau Clwyd yw un o’r bryngeyrydd mwyaf a’r un sy’n cael y nifer mwyaf o ymwelwyr o’r holl geyrydd Oes yr Haearn sydd ym Mryniau Clwyd.

Rhwng 11 a 22 Mai bydd archeolegwyr o Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd-Powys (CPAT) yn cloddio tomen sydd ar ochr ogleddol y fryngaer. Mae’r domen hon wedi’i erydu’n arw am ei bod ar Lwybr Clawdd Offa sy’n rhedeg drwy ganol y gaer a thros ben y domen.

Y llynedd, gwnaed cloddio arbrofol i weld a oedd y domen yn naturiol neu beidio. O ganlyniad, tybir mai tomen gladdu Oes yr Haearn sy’n mynd yn ôl rhyw 4000 o flynyddoedd sydd yma. Golyga hyn ei bod yn hŷn na’r fryngaer ei hunan.

Eleni, byddwn yn agor ffos fwy i gofnodi’r domen cyn iddi gael ei cholli drwy erydu, gan obeithio cadarnhau mai tomen gladdu sydd yma yn wir.

title Filter     Dangos # 
# Teitl yr Eitem Hitiau
1 Dydd Gwener 22 Mai 3297
2 Dydd Iau 21 Mai 3362
3 Dydd Mercher 20 Mai 3413
4 Dydd Mawrth 19 Mai 3211
5 Dydd Llun 18 Mai 3101
6 Dydd Sul 17 Mai 3410
7 Dydd Sadwrn 16 Mai 3388
8 Dydd Gwener 15 Mai 3268
9 Dydd Iau 14 Mai 3341
10 Dydd Mercher 13 Mai 3280