Dydd Mercher 13 Mai Argraffu Ebost

Ar ôl credu na all y tywydd fod yn waeth; dyma hi’n gymylog, cawodlyd a’r gwynt yn gryfach fyth. Ond nid yw hyn yn gallu stopio Ian a Sophie a lapiodd eu hunain a dechrau clirio’r safle.

Yn y bore, daeth Rhun o’r Gwasanaeth Cefn Gwlad a finnau â 21 o blant o Ysgol Pen Barras i weld y cloddio. Roedd y plant wedi bod yn astudio’r Celtiaid yn yr ysgol ac yn holi llawer am y fryngaer a beth roedd yr archeolegwyr wedi dod o hyd iddo.

Ar ôl ymweliad cyflym â’r ffos gloddio fe swatiodd y plant a’r archeolegwyr rhwng y ponciau ac o ddannedd y gwynt er mwyn cael gwybod mwy am y safle. Dangosodd Ian rhai o’r darganfyddiadau iddyn nhw - rhai cerrig oedd wedi naddu ag enwau cerddwyr o garnedd y cerddwyr oedd rhaid ei thynnu i lawr er mwyn cyrraedd y pridd.


Er ei bod yn rhy gynnar i ddweud eto, mae Ian yn obeithiol am ein bod yn dod ar draws llawer o gerrig sydd wedi’u claddu a allai fod yn domen gladdu a wnaed o bridd a cherrig. Ond mae’n gynnar iawn eto a rhaid gwneud mwy o gloddio.

day3