Dydd Gwener 15 Mai Argraffu Ebost

O’r diwedd, mae’r tywydd o’n plaid. Mae’n sych a’r gwynt wedi gostegu o’r diwedd. Treuliwyd y diwrnod yn gorffen glanhau’r safle er mwyn iddyn nhw gychwyn cloddio’r archeoleg ddydd Sul. img_3513

Yn y prynhawn, daeth y grŵp archeoleg y Grug a’r Ceyrydd i ymweld ag Ian a Sophie. Dangosodd Ian y man cloddio i’r grŵp ac esboniodd bod yr arwyddion yn addawol - gan ddangos cylch tywyll a allai ddangos ymylon y domen. Yr unig beth a ddaeth i’r golwg ar hyn y bryd yw darnau o bibell glai sy’n debyg o fod yn perthyn i ffos lladron yn y canol, a gwydr a adawyd gan gerddwyr yn y gorffennol efallai.