| Dydd Sul 17 Mai |
|
|
|
Mae’r tywydd yn ein herbyn eto heddiw. Mae’n wyntog a’r glaw yn drwm. Ond daeth 30 o bobl frwd i weld y cloddio felly rydym yn dringo’r bryn yn nannedd y gwynt. Mae Ian a Sophie yn swatio yn y rhagfuriau o dan babell a wnaed o ddarn o darpolin a ffyn er mwyn cysgodi rhag y tywydd ac i gael paned. Fe aethon ni er mwyn iddyn nhw fynd ymlaen â’r gwaith ac i chwilio am gysgod ein hunain. Mae Sophie yn cloddio ar yr ymyl i weld pa mor fawr yw’r domen ac mae Ian yn prysur gofnodi beth maen nhw wedi’i ddadorchuddio er mwyn iddyn nhw ei godi o’r ddaear.
Mae’ tywydd yn clirio am ychydig, ond pan es i â changen Sir Ddinbych o’r Clwb Archeolegwyr Ifanc i fyny, fe agorodd y nefoedd eto. Ond nid yw’r tywydd yn effeithio gormod ar y brwdfrydedd ac mae’r plant yn hapus yn rhoi help i Ian gyda llun sy’n dangos pa mor uchel yw’r rhagfuriau.
|



Orielau 








