Dydd Mawrth 19 Mai Argraffu Ebost

Roedd y bore’n wlyb dros ben, sy’n golygu bod rhaid i Ian a Sophie ddioddef brwydro yn erbyn yr elfennau heddiw eto, ac mae’r babell dros-dro yn ei hôl.

Er bod y gwaith yn araf, maen nhw’n llwyddo i gloddio drwy mwy o’r defnydd artiffisial sy’n creu’r boncyn. Mae hyn wedi dangos haen dywyll, sef olion yr haen o dyfiant yr adeiladwyd y boncyn arno, sy’n gadarnhad ychwanegol mai poncyn artiffisial sydd yma. Byddai’n wych petawn yn gallu dod o hyd i rhywbeth o Oes yr Efydd.

webpic2