| Dydd Mercher 20 Mai |
|
|
|
Mae’n ddiwrnod cymylog unwaith eto. Rydym yn treulio’r diwrnod yn cloddio ymhellach. Cymerir esiamplau o bridd am fod tystiolaeth bod yma olosg a allai gael ei ddyddio drwy’r dull carbon radio. Hefyd, cymerir enghreifftiau o’r haen ddu a ddarganfuwyd ddoe am ei bod yn bosib ei bod yn cynnwys paill a all roi gwybodaeth inni am yr hinsawdd a’r llystyfiant pan grëwyd y poncyn. Daeth cwmwl mawr dros ein pennau amser cinio, ac roedd rhaid rhuthro dan y babell dros-dro unwaith eto. Yn y prynhawn daeth aelodau’r daith gerdded olaf i weld y safle, a daeth yr haul allan. Erbyn diwedd y dydd roedd ffos y lladron wedi’i chloddio, ac ar ei gwaelod roedd siâp hirsgwar wedi’i dorri i mewn i’r sgwâr. Mae hyn, ynghyd â’r cerrig mawr a dynnwyd o ôl-lenwad ffos y lladron yn awgrymu mai dyma lle’r oedd y lle claddu, ond bod y lladron wedi cymryd popeth.
|



Orielau 







