Dydd Gwener 22 Mai Argraffu Ebost

Diwrnod olaf y cloddio. Caiff ei dreulio’n gorffen cofnodi’r safle a glanhau’r ffos ar gyfer y ffotograffau olaf.

Felly, ar ôl pythefnos o gloddio - beth yw’r canlyniad? Er na fu unrhyw dystiolaeth dyddio mae’r archeolegwyr yn fodlon mai tomen gladdu Oes yr Efydd yw’r poncyn, sy’n mynd yn ôl tua 3,500 o flynyddoedd. Daethant i’r casgliad hwn drwy edrych ar sut gafodd y poncyn ei adeiladu a beth gafodd ei ddarganfod. Mae ffos y lladron wedi cymryd yr holl dystiolaeth o gladdu, ond mae’r siâp hirsgwar a dorrwyd yn y creigwely yn dystiolaeth dda ei fod yma ar un adeg. Yn anffodus i ni, bu’r lladron yn drwyadl ac wedi cymryd popeth, nid chwilio am drysor yn unig.

Bydd CPAT yn ysgrifennu adroddiad, felly cadwch lygad ar gloddio Penycloddiau mewn rhaniad dyfnach ar ôl iddo gael ei gwblhau.

webpic5