Saif y gaer hon ar esgair o fynydd ar Fryniau Clwyd, ceir rhai golygfeydd syfrdanol dros Ddyffryn Clwyd oddi yma.
Adeiladwyd Moel y Gaer Llanbedr yn ystod Oes yr Haearn tua 2,500 o flynyddoedd yn ôl.
Un rhes o ragfuriau (y ffosydd a’r cloddiau i’r dwyrain) sydd gan y fryngaer hon. Byddai’r bobl wedi byw mewn tai pren, crwn.
Mae dwy fynedfa i’r fryngaer hon. Mae’r un i’r gogledd yn fynedfa gymhleth, a’r cloddiau’n gweithredu fel twmffat gan ei gwneud yn anos i elynion ymosod arni.
Mae’r atodiad sydd ar yr ochr yn siâp y llythyren ‘D’. Efallai mai yma roedd yr anifeiliaid yn cael eu cadw.
Yn 1849 bu Wynne Ffoulkes yn gwneud ychydig o gloddi archeolegol y tu mewn i’r fryngaer.
Cyrraedd:
Er nad oes unrhyw lwybrau troed yn mynd yn union i Foel y Gaer gallwch weld y fryngaer ddiddorol hon a'r olygfa syfrdanol o Lwybr Clawdd Offa i'r dwyrain ac o'r llwybr cyhoeddus i'r gorllewin. Mae'r naill lwybr a'r llall yn cychwyn ym maes parcio'r Glwyd Haearn.
Map OS: Explorer 265 Cyfeiriad grid OS: SJ149617
Cerdded yng Ngefn Gwladd Sir Ddinbych- De'r Twr. Tudalen 1 & Tudalen 2
Os hoffech ddysgu mwy am Foel y Gaer Llanbedr, ewch i dudalen Moel y Gaer Llanbedr - Cloddiwch yn Ddyfnach.
|