Ar fryn amlwg yn edrych dros Ddyffryn Clwyd mae’r gaer hon.

Adeiladwyd Moel Arthur tua 2,500 o flynyddoedd yn ôl.
Mae’n swatio rhwng bryngaer Penycloddiau a Moel Llys y Coed.
Er ei bod yn gaer fechan, ganddi hi mae rhai o’r cloddiau a ffosydd (rhagfuriau) mwyaf holl fryngeyrydd yr ardal.
Nid pobl Oes yr Haearn yn unig oedd yn defnyddio Moel Arthur.
Mae’n bosib bod tomen gladdu Oes yr Efydd yng nghanol y fryngaer, ac mae tystiolaeth o chwarela ar ochr ddeheuol y bryn.
Yn ôl yr hanes, bu rhai gor-optimistaidd yn ceisio cloddio am aur yma yn ystod Rhuthr am Aur Cilcain.
Link i taflen
Cyrraedd:
Gallwch gyrraedd Moel Arthur drwy gymryd y ffordd o'r Wyddgrug i Ddinbych (A541) a throi i'r ffordd gyntaf ar y chwith ar ôl y drofa i Gilcain.Mae'r fryngaer ddwy filltir i lawr y ffordd hon, ac mae maes parcio bychan yn ymyl y safle.
Map OS: Explorer 265 Cyfeiriad grid OS: SJ145660
Cerdded yng Ngefn Gwlad Sir Ddinbych- Penycloddiau/Moel Arthur. Tudalen 1 & Tudalen 2
Os hoffech ddysgu mwy am Foel Arthur, ewch i dudalen Moel Arthur – cloddiwch yn ddyfnach.
|