Ar Fryniau Clwyd mae un o fryngaerau mwyaf Cymru.
Adeiladwyd Penycloddiau tua 2,500 o flynyddoedd yn ôl.
Mae yn un o fryngaerau mwyaf Cymru a'r mwyaf ar Fryniau Clwyd.
Mae tystiolaeth yn awgrymu y byddai tai o amgylch y fryngaer lle byddai pobl yn cael lloches ger y cloddiau enfawr a'r ffens bren fawr fyddai ar y top.
Mae llynnoedd yng nghanol y fryngaer fyddai'n darparu dŵr i'r bobl oedd yn byw tu mewn iddi.
Mae tystiolaeth bob pobl wedi defnyddio'r bryn hwn cyn oes yr Haearn. Mae cloddfa gladdu o oes yr Efydd ar ben gogleddol y bryn.
Cyrraedd:
O Fodfari ger Dinbych neu Lanbedr Dyffryn Clwyd ger Rhuthun ewch ar y ffordd B5429 i Landyrnog. Ar ôl cyrraedd Llandyrnog, dilynwch arwyddion Llangwyfan, ewch ar hyd y ffordd wledig hon drwy'r pentref ac ymlaen tua maes parcio bach sydd 1/4 milltir o'r safle. Gallwch fynd i'r Gaer yn uniongyrchol am fod Llwybr Clawdd Offa yn mynd drwyddi.
Map OS: Explorer 265 Cyfeiriad grid OS: SJ128678
Cerdded yng Cefn Gwlad Sir Ddinbych- Penycloddiau/Moel Arthur. Tudalen 1 & Tudalen 2
Os hoffech gael mwy am Benycloddiau, ewch i’r dudalen Penycloddiau – Cloddiwch yn Ddyfnach!
|