Beth fydd y prosiect yn ei olygu?
Ein Treftadaeth Gaerog Mae’r chwe chaer Pen y Cloddiau, Moel Arthur, Moel y Gaer (Llanbedr),
Moel Fenlli, Moel y Gaer (Llantysilio) a Chaer Drewyn yn enghraifft ysblennydd
o dirlun hanesyddol Bryniau Clwyd a Mynydd Llantysilio. Anela’r
Cynllun Partneriaeth Tirlun Grug a Chaerau at ddatblygu rhaglen astudiaeth
gymunedol o safleoedd y caerau a fyddai’n cynyddu’n enfawr
ein dealltwriaeth o’r henebion pwysig yma. Amlygwyd y posibilrwydd
o ddysgu rhagor ynghylch y caerau gan arolygon diweddar a ddarganfu dros
90 o safleoedd gyda sylfaeni cytiau na wyddai neb amdanynt cyn hynny. Byddai’n Rhaglen Treftadaeth y Caerau hefyd yn datblygu ffordd
strategol o reoli gwaith positif ar gyfer cynnal gwaith i adfer safleoedd
y caerau a lleihau difrod a achosir gan erydiad. Byddai’r gwaith
yn cynnwys adfer llwybrau troed sydd wedi’u difrodi, ail gyfeirio
rhai llwybrau rhag difrodi ymhellach nodweddion archeolegol pwysig a
gweithredu i rwystro defnydd anghyfreithlon o’r ucheldir gan gerbydau
oddi ar y ffordd sydd hefyd yn peri difrod i’r caerau. Ein Treftadaeth y Gweundir Mae’r gweundir grug yn gynefin bywyd gwyllt gwerthfawr iawn sy’n
cael ei ystyried o werth rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol. Mae’r
Cynllun Partneriaeth Tirlun Grug a Chaerau yn anelu at adfer cyflwr y
gweundir trwy reoli grug a rhedyn. Y nod yw hyrwyddo ardaloedd o Dir
Comin yn enwedig er mwyn cymryd rhan mewn cytundebau rheoli a chynllunio
amaeth-amgylcheddol a fyddai’n cynnig cymorth ariannol er mwyn
rheoli’r gweundir mewn ffordd bositif yn y tymor hir. Mae’r
prosiect hefyd yn anelu at ddatblygu rhaglen hyfforddi ar gyfer rheoli
gweundir drwy hwsmonaeth draddodiadol ar mewn partneriaeth â Choleg
Llysfasi. Sefydlir menter gwarchodaeth y gweundir a phrosiect ar gyfer
rheoli'r perygl o dân, gyda’r bwriad o ddefnyddio dulliau
rhagweithiol a fydd yn arwain at wneud y difrod lleiaf posibl i’r
cynefin yn y dyfodol. Deall Ein Hucheldir Bob blwyddyn mae mwy
na hanner miliwn o bobl yn ymweld â’r
Ardal Partneriaeth Tirlun Grug a Chaerau, llawer heb unrhyw syniad o
arwyddocâd treftadaeth naturiol a hanesyddol pen eu taith. Bydd
y Cynllun Partneriaeth Tirlun Grug a Chaerau yn sefydlu ystod eang o
brosiectau dehongli arloesol o arddangosfeydd, llwybrau anghysbell, adnoddau
addysgol a chyhoeddiadau gwybodaeth. Drwy gynyddu cyfranogaeth y cyhoedd
mewn rheoli treftadaeth, cynyddir y ddealltwriaeth o werth yr ardaloedd
arbennig yma. Adeiladwyd yr aneddiadau
caerog ar ben y bryniau er mwyn manteisio ar safleoedd hawdd eu hamddiffyn,
sy’n golygu fod y mannau hyn yn
dal yn bur anhygyrch. Mae dod â chymeriad treftadaeth yr ucheldir
i’r cymunedau lleol yn amcan craidd y Cynllun Partneriaeth Tirlun
Grug a Chaerau, gan wneud treftadaeth arbennig yr ardal yn hygyrch i’r
rhai na fyddai fel arall yn gallu mwynhau’r safleoedd hynny. Gwella Mynediad i Bawb Bydd pedwaredd raglen
graidd o dan y Cynllun Partneriaeth Tirlun Grug a Chaerau yn gwella
mynediad corfforol i dreftadaeth yr ucheldir. Bydd
y Rhaglen Mynediad yn cynnwys gwella’r llwybrau troed, sefydlu
llwybrau treftadaeth, datblygu rhwydwaith cludiant cyhoeddus yn ogystal â chynnal
rhaglen o ddigwyddiadau. Anela’r Rhaglen hefyd at sybsideiddio
cost cludiant i Ardal y Prosiect ac o ardaloedd dan anfantais ar gyfer
ddibenion addysgol. Bydd y Rhaglen Gwella Mynediad i Bawb wedi’i
chysylltu’n agos â’r Rhaglen Deall Ein Hucheldir. Pa wahaniaeth wnaiff y prosiect? • Daw â 6
safle gaerog o dan reolaeth bositif.
•
Daw â 1,500ha o weundir yr ucheldir o dan reolaeth cydlynedig.
• Uwchraddir 400m o rwydwaith llwybrau troed er mwyn darparu mynediad gwell
i bawb.
•
Gwella cludiant cyhoeddus a chynyddu nifer y bobl sy’n defnyddio’r
gwasanaeth.
• Darparu cyfleoedd newydd i bobl o bob cefndir fwynhau treftadaeth yr
ucheldir.
• Darparu cyfleoedd hyfforddi er mwyn
i bobl allu cymryd rhan mewn rheoli gweundir y grug ac mewn ymchwil archeolegol.
|