Prosiect y Grug a'r Caerau –
y Cyfnewid Cefn Gwlad

Beth ydy Prosiect y Grug a'r Caerau?

Bydd y Grug a'r Caerau, dwy o nodweddion hynod cefn gwlad Sir Ddinbych, yn ganolbwynt prosiect cyffrous a all fod ar y gweill ar gyfer ardaloedd Bryniau Clwyd a Mynydd Llantysilio.
Mae'r rhostir porffor amlwg sy'n gorchuddio ucheldir Bryniau Clwyd yn cyfrannu at ei harddwch eithriadol, mae'n gynefin pwysig i'r bywyd gwyllt ac yn adnodd amaethyddol. Bu'r rhostiroedd grug yn diflannu drwy gydol yr hanner can mlynedd diwethaf ac mae rhan sylweddol o'r rhelyw mewn cyflwr gwael. Prif amcan Prosiect y Grug a'r Caerau yw gwella ansawdd y rhostiroedd grug drwy eu rheoli a'u deall yn well.

Nodwedd drawiadol arall ucheldir Clwyd yw'r gadwyn o fryngaerau Oes yr Haearn sydd ar bennau'r bryniau. Olion hen ddiwylliant a hen ffordd o fyw yw'r bryngaerau hyn, sy'n ffurfio tirwedd hanesyddol unigryw yng Nghymru. Ychydig a wyddom am y patrwm rhyfedd hwn o fryngaerau, felly yr amcan yw ymchwilio i'n gorffennol gan ofalu fod yr olion yn cael eu rheoli'n briodol ar gyfer y dyfodol.

Drwyddi draw, bwriad Prosiect y Grug a'r Caerau yw gwella'r ddealltwriaeth, cynyddu'r ymwybyddiaeth a'r hygyrchedd a chael dylanwad ar reolaeth Bryniau Clwyd a Mynydd Llantysilio yn y dyfodol. Yn ystod y flwyddyn nesaf bydd cynlluniau manwl yn cael eu datblygu a fydd yn sail i ariannu ceisiadau pellach ar gyfer gwaith a fyddai er lles i'r bywyd gwyllt ac i'r cofebion hanesyddol, ac a fyddai'n ailsefydlu'r cysylltiad, a fu mor gryf yn y gorffennol, rhwng y bobl a'r ucheldir. Petai’n llwyddiannus, Prosiect y Grug a'r Caerau fyddai'r Cynllun Partneriaeth Tirwedd cyntaf yng Nghymru.

Y Cyfnewid Cefn Gwlad

Dewiswyd Prosiect y Grug a'r Caerau yn un o dri yn unig o Ymweliadau Cyfnewid Cefn Gwlad a fydd yn digwydd yn y DU eleni. Bydd wyth o arbenigwyr o Ogledd America a'r DU yn gweithio o fewn Prosiect y Grug a'r Caerau am wythnos ym mis Hydref gyda'r bwriad o gynnig atebion ymarferol i faterion sy'n bodoli.

Bydd y Rhaglen Cyfnewid Cefn Gwlad yn darparu cyfle unigryw i rannu profiadau ac arbenigedd ac i weithio ar broblemau cyffredin gydag unigolion o'r naill ochr a'r llall o Fôr Iwerydd. CEI Associates sy'n rheoli Rhaglen Cyfnewid y DU.

Yn ystod eu hymweliad astudio, gofynnir i'r arbenigwyr gynnig argymhellion, syniadau newydd ac atebion ynghylch sut y gall Prosiect y Grug a'r Caerau gyfrannu tuag at:

> Gwella rheolaeth cynefin y grug at ddibenion cadwraeth gan gydnabod yr angen am gynhyrchiant amaethyddol.

> Gwella profiadau'r cymunedau lleol a'r ymwelwyr drwy iddynt allu gwerthfawrogi a deall treftadaeth y bryngaerau a'r cynefin yn well.

> Mesur barn y gymuned leol am eu treftadaeth ucheldirol ac ymestyn y rhan a gymerant i'w diogelu.

Yn ystod eu harhosiad, bydd y Tîm Cyfnewid Cefn Gwlad yn cyfarfod â ffermwyr, pobl sy'n gweithio yn yr ardal, aelodau'r gymuned leol a busnesau a fydd yn cyfrannu gwybodaeth i'r ymchwil. Cyflwynir eu darganfyddiadau ar ddydd Iau 7fed Hydref.

Sut i gymryd rhan

Yn rhan o'r fenter hon, mae'n bwysig i'r Tîm Cyfnewid Cefn Gwlad dderbyn barn gynrychiadol oddi wrth nifer o grwpiau ac unigolion. Mae modd cyfrannu at yr ymweliad mewn nifer o ffyrdd. Er enghraifft:

> Awgrymu ymweliadau i safleoedd, neu awgrymu enw rhyw grwp yn y gymuned y dylai'r Tîm Cyfnewid Cefn Gwlad ei gyfarfod.
> Awgrymu grwpiau cymunedol neu sefydliadau a ddylai gyfranogi.
> Cyflwyno barn ynglyn â threftadaeth yr ucheldir.
> Mynychu'r cyfarfod cyhoeddus a chyfrannu ato.
> Noddi digwyddiadau neu weithgareddau o fewn y Rhaglen Cyfnewid Cefn ...Gwlad.

Mwy o wybodaeth

Helen Mrowiec
Swyddog Prosiect y Grug a'r Caerau
Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych
Yr Hen Garchar,
46 Stryd Clwyd, Ffôn: 01824 708257
Rhuthun Ffacs: 01824 707202
LL15 1HP
Ebost:
helen.mrowiec@ygurgarcaerau.co.uk

 
 
Llyniau©Hawlfraint y GoronCBHC