Cyfnewid
Cefn Gwlad Grug a Chaerau
Dewiswyd
y Prosiect Grug a Chaerau yn un o ddim ond 3 Ymweliad Cyfnewid Cefn
Gwlad yn y
DU yn 2005. Gweithiodd wyth arbenigwr o Ogledd America
a’r DU yn yr Ardal Prosiect Grug a Chaerau am wythnos ym mis Hydref,
gyda’r amcan o ganfod atebion ymarferol i’r problemau a geir
yno ar hyn o bryd.
Rhoddodd y
Rhaglen Cyfnewid Cefn Gwlad gyfle unigryw i rannu profiadau ac arbenigedd
ac
i weithio ar broblemau cyffredin gydag unigolion o ddwy
ochr i’r Iwerydd. Rheolwyd Rhaglen Cyfnewid y DU 2005 gan CEI Associates.
Fel rhan o’u hymweliad astudio, gofynnwyd i’r arbenigwyr
gyflwyno eu hargymhellion, syniadau newydd ac atebion ynghylch sut y
gallai’r Prosiect Grug a Chaerau gyfrannu tuag at:
• Wella
rheolaeth cynefin y grug at ddibenion cadwraeth, gan gydnabod fod angen
...ei ddefnyddio
ar gyfer cynnyrch amaethyddol.
•
Gwella profiadau’r cymunedau lleol ac ymwelwyr trwy werthfawrogi
a deall ...treftadaeth y caerau a’u cynefin yn well.
• Dehongli canfyddiad y gymuned leol
ynghylch eu treftadaeth ucheldirol a sut i ...gynyddu eu cyfraniad tuag
at ei gwarchod.
Yn ystod eu
harhosiad, cyfarfu’r Tîm Cyfnewid Cefn Gwlad
gyda ffermwyr, pobl yn gweithio yn yr ardal ac aelodau o’r gymuned
a busnesau lleol er mwyn cynnal eu hymchwil.
Ystyriwyd
argymhellion y Cyfnewid Cefn Gwlad gan Fwrdd Partneriaeth Grug a Chaerau
ac fe’i
defnyddiwyd i fwydo gwybodaeth a datblygu darpar raglenni a phrosiectau.
Llawr lwythwch
yr Adroddiad Cyfnewid Cefn Gwlad Grug a Chaerau yma.

|