|
Os oes angen ichi dorri'r grug neu'r eithin ar Fryniau Clwyd neu Fynydd Llantysilio, bydd rhaid ichi wneud hyn.
- Argymhellir yn gryf y dylid torri rhwng Hydref 1 a Mawrth 31 i osgoi aflonyddu ar yr adar sy'n nythu ar y ddaear.
- Gwell defnyddio ffust ar ben tractor gan dorri'r tyfiant ddwywaith, gan ei dorri ac atal iddo ffurfio mat all fygu'r tyfiant yn y dyfodol. Os nad oes ffust gennych yna bydd torri ag unrhyw beth yn gweithio os gofalwch nad oes mat o dyfiant yn cael ei adael.
- Peidiwch â thorri darn o dir sy'n rhy fawr - un hectar ar y mwyaf. Bydd torri darnau mwy yn golygu colli tir pori am fod y rhannau a dorrir yn cymryd mwy o amser i aildyfu na'r rhannau a losgir. Nid yn unig bydd torri rhannau bach yn darparu tyfiant newydd i'r defaid, bydd yn rhoi cysgodfa yn ymyl y tyfiant newydd i'r adar sy'n nythu ar y ddaear.
- Nid yw'n angenrheidiol ysgrifennu cynllun rheoli, ond mae'n well dilyn y canllawiau sydd yn y Cod Llosgi. Torrwch eich rhostir bob 15 mlynedd ( yn hirach os yw'r tyfiant yn araf yn adnewyddu), felly peidiwch â thorri mwy nag 1/15fed o'ch tyfiant hydrin y flwyddyn.
- Os yw'n dir sydd wedi'i warchod naill ai'n SSSI neu'n SAC yna bydd angen ichi gael caniatâd oddi wrth Gyngor Cefn Gwlad Cymru cyn ichi dorri. Er mwyn darganfod a yw'r tir wedi'i warchod yn y modd hwn edrychwch ar y map sydd ar y ddolen hon.
- Peidiwch â thorri y tu mewn na'r tu allan i Gofeb Restredig (SAM) - gall cerbydau niweidio'r cofebion hyn sy'n fregus yn aml. Gadewch o leiaf 10m o gwmpas y SAM. I ddarganfod a yw eich tir yn cael ei warchod yn y modd hwn ewch i'r ddolen hon a defnyddio'r ddolen i ‘Cymru Hanesyddol' sydd ar waelod y dudalen.
- Ceisiwch osgoi torri ar y penwythnos pan fydd hi'n brysur ar y mynydd. Peidiwch â thorri cyn iddi ddyddio ac ar ôl iddi nosi.
- Byddwch yn ymwybodol o gyfyngiadau eich cerbyd a pheidiwch â thorri mewn mannau lle byddwch mewn perygl yn ddiangen. Gadewch i rywun wybod ble rydych chi bob amser.
- Cofiwch yr oblygiadau cyfreithiol.
- Os yw'r tir yn dir SSSI neu'n SAC, bydd peidio rhybuddio'r CGC yn golygu dirwy (Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwyo 2000) .
- Mae'n drosedd (o dan y ddeddf Cofebion ac Ardaloedd Archeolegol 1979) i achosi difrod i unrhyw gofebion. Gall erlyniad olygu dirwy sylweddol neu hyd yn oed gyfnod o garchar.
Gallwch lwytho i lawr gopi o'r canllawiau i'w brintio yma.

|