| Cyngor ar sut i reoli rhedyn |
|
|
|
Rholio a thorri- Os gallwch gyrraedd y rhedyn ar dractor neu feic cwad mae cleisio a thorri'n gyson yn ffordd effeithiol o'i reoli. Yn ddelfrydol, rhaid torri a rholio rhedyn dair gwaith y flwyddyn yn y gwanwyn a'r haf. Bydd hyn yn atal ei dyfiant ac yn rhoi cyfle i blanhigion eraill gystadlu. Tybir mai rholio syml yw'r ffordd orau am fod hyn yn plygu'r goes heb ei thorri, a bydd y rhedyn yn dal i geisio tyfu ac yn defnyddio ynni. Bydd hyn yn cael dylanwad yn y tymor hir ar y planhigyn.
Chwistrellu- Chwistrellu ag Asulox yw'r dull mwyaf effeithiol yn y tymor byr o ladd rhedyn. Mae chwistrellu o'r awyr yn ddull arbennig o dda i reoli'r llethrau serth ble na all peiriannau fynd. Bydd chwistrellu yn 95% + llwyddiannus, ond rhaid gwneud gwaith dilynol i atal y rhedyn rhag tyfu'n ôl ar y tir a gafodd ei drin.
Gellir rheoli'r tir mewn sawl ffordd. Byddai pori'n help i dorri'r mat o redyn marw gan agor y pridd ac annog rhywogaethau eraill o blanhigion i dyfu. Ar y tir mwy gwastad, byddai ei rolio yn gymorth i wanhau unrhyw redyn sy'n ceisio dod yn ôl. Gall chwistrellu unrhyw redyn sy'n bygwth tyfu gael ei wneud ar raddfa lai o lawer gan ddefnyddio tractor sydd â chwistrellwr bŵm arno, neu sach gefn, gan ymosod ar y planhigion unigol.
Asiantaeth yr Amgylchedd sy'n gyfrifol am roi caniatâd i ddefnyddio Asulox. Mae Asulox yn gymeradwy i'w ddefnyddio mewn dalgylchoedd dwr. Dywed Asiantaeth yr Amgylchedd bod angen gadael 50 m, o gwmpas unrhyw gyrsiau dwr a mannau tynnu dŵr, (100m mewn rhai achosion).
Cliciwch yma i ddychwelyd i dudalen gartref Rheolwyr y Tir.
|



Y Grug a'r Caerau 







