Er mwyn cynnal ardaloedd y rhostir ar gyfer y bywyd gwyllt a'r amaethyddiaeth, y naill a'r llall, mae'n angenrheidiol rheoli'r grug.
Golygodd y newidiadau a fu o ran arferion a pholisi amaethyddol fod ardaloedd eang y rhostir sydd o fewn Project y Grug a'r Caerau heb gael eu rheoli yn ystod yr hanner can mlynedd diwethaf.
Amcan y Project yw datblygu rhaglen arddangos rheoli y rhostir mewn partneriaeth a fyddai'n cynnwys rheoli'r rhostir drwy losgi a thorri a thrwy reoli'r rhedyn. Bydd menter gwarchod y rhostir a Phroject rheoli risgiau tannau yn cael eu sefydlu, gan amcanu at fabwysiadu dull blaen weithiol er mwyn lleihau y posibilrwydd o ragor o ddifrod i'r cynefin.
Amcan y tymor hir yw hwyluso'r ardaloedd Tir Comin i dderbyn cytundebau cenedlaethol a fydd yn cefnogi rheolaeth yr ucheldiroedd.
Datblygir tri phroject allweddol o dan y thema Ein Treftadaeth Rhostiroedd:
Adfer Rhostiroedd
Er mwyn adfer amodau ffafriol ardaloedd rhostiroedd Bryniau Clwyd a Mynydd Llantysilio, er lles i gadwraeth, cynnyrch amaethyddol a mwynhad y cyhoedd.
Cynllun Gwarchod Rhostiroedd
Gweithredu i ostwng defnydd anghyfreithlon o'r rhostiroedd mynydd o fewn y project gan 4x4 a defnyddwyr beiciau modur all-ffordd.
Arddangos Rheolaeth Rhostiroedd
Gweithredu i leihau'r risg i'r rhostir grug ac i'r safleoedd archeolegol oddi wrth losgi grug yn anfwriadol ar raddfa eang a datblygu rhaglen i gynyddu sgiliau rheolaeth y rhostiroedd mewn partneriaeth â eraill.
Treftadaeth ein Bryngaerau
Deall ein Hucheldiroedd
Gwella Mynediad
|