Gwella Mynediad Argraffu Ebost

Bydd y bedwaredd raglen graidd o dan y Cynllun Partneriaeth Tirwedd y
Grug a'r Caerau yn gwella'r mynediad i dreftadaeth yr ucheldiroedd.

 

Moel ArthurBydd y Rhaglen Mynediad yn cynnwys gwella'r llwybrau, sefydlu llwybrau treftadaeth, datblygu rhwydwaith o drafnidiaeth gyhoeddus a rhaglen o ddigwyddiadau.

Nod arall y rhaglen yw rhoi cymhorthdal costau teithio i Ardal y Project at ddibenion addysgol y grwpiau targed.

 

Datblygir saith o brojectau allweddol o dan y thema Gwella Mynediad:

  

Gwella Llwybrau Troed

Cymryd agwedd strategol i wneud y rhwydwaith llwybrau troed yn fwy hygyrch.

 

Gwasanaeth Bysiau Bryniau Clwyd

Hyrwyddo Gwasanaeth Bysiau Bryniau Clwyd.

 

Cymorth Teithio er Mwyn cael Mynediad i'r Dreftadaeth

Datblygu cynllun teithio a fydd yn ariannu ymweliadau addysgol I Ardal y Grug a'r Caerau.

  

Teithiau Cerdded y Grug a'r Caerau

Datblygu cyfres o deithiau cerdded sy'n cysylltu'r Grug a'r Caerau o fewn Ardal y project a dargedwyd at y gymuned leol, ymwelwyr a thwristiaid.

 

Rhaglen Digwyddiadau

Datblygu rhaglen o deithiau cerdded gydag arweinydd sy'n ymwneud ag Ardal y Grug a'r Caerau er mwyn gwella gwybodaeth a dealltwriaeth pobl o dreftadaeth hanesyddol a naturiol yr ucheldiroedd.

  

Gwesteiwyr Treftadaeth

Darparu hyfforddiant i fusnesau twristiaeth lleol i hybu treftadaeth yr ardal i dwristiaid.

 

Projectau Ymestyn Allan

Datblygu project ymestyn allan a fydd yn hwyluso grwpiau a dargedwyd i gael mynediad i dreftadaeth Bryniau Clwyd a Mynydd Llantysilio.

 

 

Treftadaeth ein Bryngaerau

Treftadaeth ein Rhostiroedd

Deall ein Hucheldiroedd