Camu’n ôl mewn amser - ychydig yn wahanol Argraffu Ebost
Ewch am reid ar garped hud i brofi diwrnod ym mywyd pobl o’r Oes Haearn – heb adael eich sedd !
Bydd y digwyddiad ym Mharc Gwledig Loggerheads ar ddydd Iau, Mai 20 (2pm-3.30pm) yn caniatáu i bobl deithio’n ôl 2,500 o flynyddoedd i brofi golygfeydd, synau ac arogleuon Bryniau Clwyd yn ystod yr Oes Haearn.

Gan ddefnyddio deunydd newydd, gall cyfranogwyr brofi ffordd o fyw pobl yr Oes Haearn, blasu cinio ysgafn a fyddai wedi bod yn boblogaidd yn y cyfnod hwn a chael eu tywys ar rith-daith.
Esboniodd Erin Robinson, Swyddog Dehongli Prosiect Grug a'r Caerau, "Rydym yn hynod lwcus o fod â thirwedd archeolegol sydd mor gyfoethog ar garreg ein drws.  Ond, fel yr awgryma’r enw, fe adeiladwyd bryngaerau ar ben bryniau uchel, felly ni all pawb ymweld â nhw’n bersonol.
"Gan ddefnyddio cyfres o ddigwyddiadau eleni rydym yn gobeithio dod â threftadaeth y bryniau i bawb a rhoi’r cyfle i bob ymwelydd brofi Mynyddoedd syfrdanol Llantysilio ac Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd sy’n dathlu  pen-blwydd ei dynodiad yn 25 eleni."
Mae hwn yn un o wyth o ddigwyddiadau a drefnwyd gan Gyngor Sir Ddinbych, gyda’r nod o ganiatáu i bobl sydd â nam corfforol, nam ar y golwg neu’r clyw, gael mynediad i gefn gwlad Sir Ddinbych.  Bydd dehonglwr Iaith Arwyddion Prydain yn bresennol yn y digwyddiad hwn.
Cynhelir y digwyddiad nesaf ar Fehefin 15 pan gaiff pobl eu tywys drwy dirwedd dyffryn afon Loggerheads ar ‘reid carped hud’ arall.
I fwcio lle ym mhob digwyddiad Mynediad i Bawb, cysylltwch â Colin Antwis ar 01352 756202.


Mae prosiect tair blynedd y Grug a'r Caerau’n datblygu menter £2.3 miliwn ar gyfer gwaith cadwraeth yr ucheldir ac mae wedi derbyn grant o £1.5 miliwn gan Gronfa Treftadaeth y Loteri.  I gael gwybodaeth bellach ewch i heatherandhillforts.co.uk.  Yn awr gallwch ein dilyn ar twitter!  Ewch i www.twitter.com/HeatherHillfort neu ymunwch â’n grŵp Facebook i gael rhagor o ddiweddariadau gan y prosiect
Mae defnyddio arian a godwyd drwy’r Loteri Genedlaethol, Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn cynnal ac yn trawsnewid ystod eang o dreftadaeth i genedlaethau’r presennol a’r dyfodol gymryd rhan ynddyn nhw, dysgu oddi wrthyn nhw a’u mwynhau.  O amgueddfeydd, parciau a lleoedd hanesyddol i archeoleg, yr amgylchedd naturiol a thraddodiadau diwylliannol, rydym yn buddsoddi ym mhob rhan o’n treftadaeth amrywiol.  Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri wedi cefnogi dros 28,800 o brosiectau gan ddyrannu dros £4.3 biliwn ar draws y DU, yn cynnwys dros 1,800 o brosiectau sy’n dod yn gyfanswm o dros £200 miliwn yng Nghymru.  I ddarganfod mwy ewch i www.hlf.org.uk
Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o brosiect peilot i annog pobl na fyddent yn teimlo’n hyderus fel rheol i ddod i gefn gwlad.  Caiff y prosiect gefnogaeth gan Asiantaeth Datblygu Gwledig Cadwyn Clwyd a chaiff y prosiect ei ariannu’n rhannol gan Gynllun Datblygu Cymru’r UE a Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Mae profiad Fieldsman Trails o ddefnyddio’r synhwyrau i gyd i ddod â chefn gwlad yn fyw yn pontio bron i ddeunaw mlynedd.  Mae Llwybrau Llais gyda Sylwebaeth Fyw, Lluniau Llafar Cyffyrddol, Arweiniadau ‘Look-Out’, Mapiau ac arweiniadau mewn amrywiaeth o fformatau yn rhan o’u repertoire.  Ewch i www.fieldsmantrails.com i gael rhagor o wybodaeth.