| Dehongli’r gorffennol – gan ddefnyddio meysydd parcio! |
|
|
|
Efallai bod ymwelwyr â Bryniau Clwyd yn fwy cyfarwydd â chodi taflen, pori panel gwybodaeth neu bori’r we i ddod o hyd i wybodaeth am yr ardal, ond mae ffynhonnell newydd i’w defnyddio i ddehongli’r gorffennol – y maes parcio hen ffasiwn. Mae gwaith ar y gweill i gyflwyno nodweddion newydd ym maes parcio Bwlch Pen Barras, ym maes parcio Moel Famau mewn partneriaeth â’r Comisiwn Coedwigaeth. Bydd y nodweddion yn cynnwys dyluniad newydd o’r Olygfan ym Mwlch Pen Barras i ddynwared gweddillion y tai crwn o’r Oes Haearn yn ogystal â’i gwneud yn haws i fynd at y nodwedd, Clawdd cerrig sychion i ddisodli trawstiau rheilffordd, wedi ei ysbrydoli gan y ffordd y cafodd bryngaerau eu hadeiladu gan ddefnyddio technegau tebyg i’r rhai a ddefnyddiwyd 2,500 o flynyddoedd yn ôl. Bydd y nodweddion y mae’n rhaid eu cael mewn maes parcio, e.e. peiriannau parcio, yn cael eu gwneud i ffitio’u hamgylchedd yn well.
|











