Llwybr cefn gwlad yn dod yn rhyngweithiol Argraffu Ebost
Mae taith glywedol ryngweithiol sy’n eich tywys drwy olygfeydd syfrdanol rhan o Glawdd Offa yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd yn cael ei lansio’n swyddogol heddiw. (Dydd Llun Gorffennaf 26)
Dyma’r drydedd daith glywedol i’w hysgrifennu a’i chyhoeddi gan brosiect y Grug a’r Caerau sy’n cael ei ariannu gan y Loteri Dreftadaeth ac mae’n tywys ymwelwyr ar hyd ran o’r llwybr cenedlaethol o Goed Llangwyfan i Benycloddiau uwchben Llandyrnog a Nannerch.  Mae’r daith dreftadaeth glywedol yn defnyddio’r cyfryngau dehongli newydd i gynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth pobl o dirwedd yr ucheldir a’i threftadaeth.

Roedd dwy daith gyntaf Moel Famau a Chaer Drewyn yn cynnwys cyfweliadau â phobl leol, ond mae’r fersiwn ddiweddaraf hon yn siarad â chymeriadau hanesyddol; pobl sydd wedi defnyddio’r bryn yn y gorffennol, yn mynd yr holl ffordd yn ôl i Oes y Cerrig.  Actorion lleol sy’n cymryd rhan y cymeriadau hyn, yn cynnwys Rod a Margaret Williams- perchnogion bryngaer Penycloddiau.  Mae Rod hefyd yn Gadeirydd Prosiect y Grug a’r Caerau.

Mae’r daith ar gael i ymwelwyr mewn dwy ffordd.  Gall pobl lawrlwytho’r pwyntiau clywedol oddi ar y rhyngrwyd
www.ygrugarcaerau.co.uk, neu os ydych chi ar y safle a heb gyrchiad i’r rhyngrwyd gallwch gyrchu’r pwyntiau ar eich ffôn symudol.  Y cyfan sy’n rhaid i chi ei wneud yw ffonio  01745 222123 (mae’r rhif hwn wedi ei hysbysebu ar ddisgiau cyfeirbwyntio ar hyd y daith a hynny am bris galwad leol), dewiswch eich iaith, cytunwch â’r Telerau ac Amodau ac i ffwrdd â chi!

Mae’r daith yn dechrau gyda chyflwyniad a chyfarwyddiadau ym maes parcio Coed Llangwyfan ac yna fe eir â chi tua’r gogledd ar hyd Lwybr Cenedlaethol Clawdd Offa.  Mae Pwynt Clywedol Un ar fynegbost yn y fynedfa i’r fryngaer ac yna rydyn ni’n teithio’n ôl i’r Oes Haearn (2500-2000 o flynyddoedd yn ôl) i gyfarfod â gwraig a oedd yn arfer byw yn y fryngaer.

Mae’r daith yn parhau ar hyd lwybr Clawdd Offa at y mynegbost pren nesaf lle mae Pwynt Clywedol Dau.  Camwch yn ôl i’r Oes Haearn i gyfarfod â dyn a oedd yn crwydro’r bryniau pan oedden nhw wedi eu gorchuddio â choed, tua
12000 o flynyddoedd yn ôl.  Yn awr i’r pwll ym Mhenycloddiau lle cawn gyfarfod â’r wraig o’r Oes Efydd ym Mhwynt Clywedol Tri ac mae hi’n dweud wrthon ni am y domen gladdu ar y bryn, a adeiladwyd oddeutu 4000 o flynyddoedd yn ôl a phan gyrhaeddwn y copa fe eir â ni ymlaen i’r oes Fictoraidd pan oedd hynafiaethwyr yn cloddio’r domen gladdu’n chwilio am drysor!
Dywedodd Erin Robinson, Swyddog y Grug a’r Caerau: "Defnyddiwyd technoleg newydd i ddehongli’r safle fel hyn gan ei bod yn Heneb Gofrestredig ac mae’n gorwedd o fewn yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE).
"Roedden ni’n teimlo y dylid cynnwys arwyddion a osodir i ddehongli safleoedd o fewn ardaloedd a oedd eisoes wedi eu ‘trefoli’ h.y. meysydd parcio a defnyddio rhith-ddehongli i ddweud wrth bobl am y safleoedd wrth iddyn nhw ymadael â’r meysydd parcio ac anelu am y bryniau.  Gan ddefnyddio’r dechnoleg hon, eich ffôn neu chwaraewr mp3 yw’r cyfan sydd ei angen arnoch ac i gadw llygad am y disgiau cyfeirbwyntio rydyn ni wedi eu gosod ar byst sydd yno’n barod.