| Pwynt Sain Chwech |
|
|
|
Cliciwch fotwm de eich llygoden yma a chlicio 'save target as' er mwyn llwytho i lawr y Pwyntiau Sain i’ch cyfrifiadur neu mp3. Mae Pwynt sain Chwech wrth y fynedfa i'r gaer ac yn ymyl y clawdd a'r ffos sydd, yn ôl barn yr archeolegwyr, yn olion hynaf y safle ac yn mynd yn ôl i Oes yr Efydd, efallai. Mae'r pwynt hwn yn cynnwys cyfweliad a Kenneth Brassil o Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Mae'n esbonio beth oedd yma, o bosib, ddwy fil o flynyddoedd yn ôl.
|



Orielau 







