| Cyfaredd Codiad Haul ar Foel Famau |
|
|
|
Y cyntaf i'r felin gaiff falu neu fel y dywedir yn Saesneg “The early bird catches the worm”! Deffrois am 4:15, codi o’r gwely ond gan deimlo’r fwy optimistig wedi symud a gwisgo. Wedyn i lawr i’r gegin yn ddistaw rhag deffro fy mhartner a gwneud llond fflasg o goffi cryf! Fel rhan o wythnos sialens Y Grug a'r Caerau cytunais i arwain taith gynnar yn y bore i gopa Moel Famau i wylio’r wawr yn torri. Ar ddechrau’r wythnos cafwyd llawer o niwl a pheth glaw felly roedd hi’n amheus a welem y machlud o gwbl! Fodd bynnag wrth ddynesu at Foel Famau roedd y sêr i'w gweld yn glir ac roeddwn yn fwy gobeithiol. Ddaru ni gyfarfod ym maes parcio uchaf Moel Famau am 5:30am, yn weddol gysglyd ond yn awyddus i fynd - 14 o gerddwyr a 2 o staff. Wrth ddechrau dringo Llwybr Clawdd Offa roedd Dyffryn Clwyd i'w weld o danom ar ochr orllewinol Bryniau Clwyd, ac roedd goleuadau trefi Rhuthun a Dinbych yn amlwg yn awyr y nos. Roedd y bore yn syndod o gynnes ac roedd y twyllwch yn cilio, felly ffwrdd a ni ar wib. Roeddwn i ar y blaen (yn ceisio bod!) a Rhun Jones, Uwch Warden, ar y cefn.
Felly ar ôl tynnu llun yn haul y bore ffwrdd a ni i lawr y mynydd, a holl liwiau’r wawr yn diflannu o’n blaenau. Buom yn lwcus dros ben hefo’r tywydd, ac roeddem yn falch ein bod wedi gwneud yr ymdrech. Roeddem yn ôl yn y maes parcio erbyn 7:45am i ddweud ffarwel, llawer yn anelu i'w lleoliad gwaith ac eraill yn ôl i'w gwely! Dyna beth oedd dechrau da i’r dydd!
|



Orielau 

Roedd y cymylau i’r Gorllewin yn fygythiol, ond diolch byth, daethom i’r copa a gweld i’r dwyrain bod yr awyr yn glir. Arafwyd wrth gyrraedd y darn serth cyn y copa ac wedyn cyrhaeddwyd! A hynny mewn amser da fel i ni gael cyfle i orffwys a chael diod o’n fflasgiau - a golau dinasoedd Caer a Lerpwl i'w gweld yn y dwyrain
Roedd hi’n gwawrio'n goch a daeth y lliwiau yn glir wrth iddi oleuo a hefo lliwiau hardd piws, coch a melyn. Bu pawb yn tynnu lluniau hefo eu camera i ddal y darlun perffaith. Wedyn daeth yr haul allan a chafwyd diwrnod arbennig i un o’n cerddwyr oedd yn dathlu ei phen-blwydd!





