I fyny at y gorffennol ac yna i lawr i’r dyfodol gan Erin Argraffu Ebost

O’r diwedd - wyth ysgol yn ymweld â Choed Llangwyfan a bryngaer Penycloddiau! Job gyntaf y diwrnod yw’r bwysicaf: trefnu portaloo i ddisgyblion Ysgolion Cynradd sy’n ymweld o bob rhan o Sir Ddinbych a Sir y Fflint!

Ar ôl codi dwy faner wrth y fynedfa i’r maes parcio daw ein cymeriadau hanesyddol i’r golwg, fel o nunlle, i sefyll ar ochr y bryn. Maen nhw i gyd wedi byw, gweithio neu ymweld â’r bryniau hyn felly rydym ni’n lwcus o’u cyfarfod - y bobl hyn a luniodd hanes - ein cyndadau!

Wrth i Ysgol Bro Cinmeirch gyrraedd cawn sgwrs am y diwrnod a’r cod Cefn Gwlad cyn dechrau dringo'r bryniau, cyfarfod ffrindiau o’r gorffennol ar y ffordd a theithio ymhell yn ôl i amser wrth ddringo'n uwch.

adscf1331Rydym yng nghanol y Rhyfel Mawr wrth ein stop cyntaf ac yn cyfarfod  milwr, sef Private Mason - milwr fu’n ymladd hefo Byddin Canada yng ngwersyll Cinmel ger Bodelwyddan. Ar y dechrau dydyn ni ddim yn deall pam nad ydi o wedi clywed am y Rhyfel Byd Cyntaf neu’r ail Ryfel Byd ond wedyn yn sylweddoli y gallasai fod mwy nag un Rhyfel Mawr. Yn ei amser hamdden mae'n hoffi ymweld â chefn gwlad a’r bryniau - am olygfa!

adscf1338Wrth adael y milwr Mason yn bwyta ei frechdan corned beef, down at oes y Frenhines Victoria, cyfarfod Jack y Grouse, cipar sy’n edrych ar ôl y ffriddoedd. Eglurodd ei fod yno i warchod y grugieir rhag lladron a lladdwyr. Rwy’n siŵr bod ei wn yn ddychryn i bawb!

aimg_4126Wrth gyrraedd bryngaer Penycloddiau gwelir ffigwr yn y pellter sy’n galw arnom. Marchog! Wrth nesáu cawn sioc wrth iddo ddioddef ymosodiad gan y gelyn ac yna sylweddolwn mai dyma’r Cymry yn  ymladd y Sacsoniaid am diroedd. Anfonir y Sacson yn ôl tua Chlawdd Offa!

aimg_4168Wrth barhau ar ein taith yn ôl, rai cannoedd o flynyddoedd ynghynt, daethom ar Oes yr Haearn a chyfarfod dynes Geltaidd wrth fynedfa bryngaer. Bu farw ei gwr mewn brwydr a nawr hi sy’n rheoli’r tir a gwarchod y fryngaer. Mae’n dangos ei thrysor gaiff ei daflu i’r llyn fel offrwm i’r duwiau, fel tâl am eu gwarchodaeth.

Cafwyd dwy daith yn ôl mewn amser hefo ysgolion Dewi Sant ac Ysgol Maesglas ddydd Iau ac yna dydd Gwener hefo Ysgol Trefnant, Henllan, Glan Aber, Tir Morfa ac Ysgol Stryd y Rhos, cyn teithio yn ôl i’r bysus ac yn i ôl i’r dyfodol - dau ddiwrnod bythgofiadwy!

aimg_4183