| Taith Bryngaerau i Bawb gan Helen |
|
|
|
Digwyddiad Gŵyl Gerdded Sir Ddinbych HEB gerdded – all hyn fod yn wir? Yn teimlo ychydig yn ddiog, doeddwn i methu credu fy lwc eleni pan rhoddwyd yr rhaglen ar gyfer yr Wyl Gerdded at ei gilydd ac rhoddwyd fy enw i ymlaen i rhoi cymorth gyda taith Mynediad i Bawb, a hynny yn golygu prin dim cerdded! Roedd y bws mini am fynd a ni i’r mannau gorau i weld y gweundir a’r chwe bryngaer o fewn Ardal Prosiect y Grug a’r Caerau o olygfannau .
Ein arhosfan cyntaf oedd golygfan uwchlaw Cilcain, ble cawson olygfa dda o Moel Famau. Fe siaradom am y gweundir, pam fod y siapiau od hynny wedi cael eu torri a’u llosgi yn y grug, yr adar prin sydd yn byw yno a hanes Tŵr y Jiwbilî. Gyda pawb yn gyfforddus ar y bws, ymlaen i’r arosfan nesaf, gan fynd heibio bwgan brain gorau Cymru ar ein ffordd. Wrth droed Penycloddiau, yr oedd bobl yn rhyfeddu wrth ddal carreg oedd wedi cael ei adael gan Filwr o Fyddin Canada (gwr a oedd yn Americanwr!) yn ystod Rhyfel Byd Cyntaf ar y domen gerdded a adeiladwyd yn eithaf diweddar ar ben man claddu tebygol yn dyddio o Oes yr Efydd. Darganfuwyd yr garreg yn ystod gwaith archeolegol a gwblhawyd flwyddyn diwethaf. Mae disgynyddion y milwr bellach wedi cael eu canfod yn America. Astudiwyd lluniau wedi eu tynnu o’r awyr a mapiau archeolegol o Benycloddiau cyn troi ein golwg tuag at Moel Arthur. Gyda pheth pryder am hylif dirgel yn llifo i mewn i’r llawr ger y sedd flaen, aethom yn ein blaenau i Landyrnog a Dinbych, cyn troi tuag at Rhuthun. Arhosom yn un o’r mannau gorau i weld Fryniau Clwyd yn eu gogoniant gyda Penycloddiau, Moel Arthur, Moel Fenlli a Moel y Gaer i gyd i’w gweld. Rhannodd pawb eu gwybodaeth am y caerau rhagorol yma, ac roedd gennym lawer o gwestiynau na chafwyd ateb iddynt – oedd pobl yn byw yn y caerau gwahanol hyn yr un pryd? Efallai rhyw ddiwrnod y byddwn yn gallu canfod yr ateb. Gyda thaith ychydig yn hirach aethom i Gorwen ac i Canolfan Organig Rhug am ginio. Newidiwyd y daith ychydig, gyda hylif yn llifo yn gyflym ar gyfnodau, credwyd mai dyma fyddai’r peth gorau i wneud. Dwi yn sicr y byddai Erin wedi dod a’i ‘welis’ os y byddai’n gwybod! Yn yr haul mwynhaodd pawb eu cinio, rhai wedi dod a brechdanau ac roedd fy mrechdan rhost, rhaid dweud, yn fendigedig. Prynodd rai ddanteithion o’r Siop Organig i’w mwynhau yn hwyrach.
Aeth y cymal olaf a ni drwy Lanarmon yn Iâl i Loggerheads gyda Erin yn rhoi pytiau o wybodaeth ddiddorol i ni ar y ffordd. Roedd pawb wedi mwynhau eu hunain a chefais i fy nharo gan deimlad o werthfawrogiad ein bod yn byw mewn ardal sydd mor brydferth a chyfoethog, ac hefyd teimlo’n falch fod cerbyd y dydd wedi cyrraedd yn ôl yn saff er gwaethaf y hylif! Amser am lun grŵp sydyn ac i edrych ar gleddyf wedi ei fodelu ar un Oes yr Haearn, cyn i bawb ddweud hwyl fawr. Bydd rhaid gwneud y daith yma eto!
|



Orielau 

Gyda ein tywysydd Erin, a Rhun yng ngofal y gyrru (oedd mi roedd ganddo het gyrrwr bws), gadawodd fws mini llawn Loggerheads, ychydig yn hwyrach na’r amser nodedig.
Yn edrych tuag at Caer Drewyn o’r bws roedd bobl yn rhyfeddu ar yr ymdrech y byddai wedi cymryd i adeiladu caer o’r fath, a hynny heb Jac Codi Baw. Er ein bod 99% yn sicr fod y hylif dirgel ddim yn broblem ddifrifol, gwnaed newid pellach i’r daith fel ein bod yn edrych ar Moel y Gaer Llantysilio o Fryneglwys yn hytrach na’r ffordd gefn yr oeddem wedi bwriadu mynd ar ei hyd. Roedd yr erydiad a grëwyd gan gerbydau yn defnyddio y mynydd yn anghyfreithiol yn glir yn yr haul, mae Nick wedi dechrau adfer peth o’r llystyfiant gyda chymorth gwirfoddolwyr.





